Y Baton

Fel pob un o’n chwaer rasus, bydd baton arbennig i Ras yr Iaith. Caiff hwn ei basio o law i law ar hyd y siwrne hir. Fel y baton rydym am weld yr iaith Gymraeg yn cael ei phasio ar hyd y daith – o bentref i bentref; cenhedlaeth i genhedlaeth; siaradwr iaith gyntaf i siaradwr ail iaith; Cymro i dramorwr.

Yn wahanol i’r digwyddiadau eraill byddwn ni’n naddu baton unigryw ar gyfer pob gwahanol flwyddyn. Fel cadeiriau yr Eisteddfod Genedlaethol gobeithiwn y gallwn, maes o law, roi bri a sylw i grefftwaith Gymreig.

Crëwyd y baton gan Ysgol Gyfun Gymraeg Penweddig yn Aberystwyth. Cafodd ei noddi gan Mentrau Iaith Cymru

Baton yr Iaith

Twitter
🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Roedd yn wych cynrychioli'r iaith Gymraeg a'i diwylliant heddiw yn y #Korrika22 2 wlad, yr un amcan: cynyd… twitter.com/i/web/status/1…
Ar y chwith, llun o fi yn rhedeg @RasyrIaith 2018 yn Hwlffordd. Ar y dde, llun o ni gyd o @EFA_Youth heddiw yn rh… twitter.com/i/web/status/1…
Dyma bwrdd yn y Korrika yn esbonio @RasyrIaith wedi’i ysgrifennu yn Basgeg a’r Gymraeg. Syniad rhagorol bod y bobl… twitter.com/i/web/status/1…
Mentrau Iaith Brecon Carreg Llaeth y Llan Golwg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys BT Prifysgol Aberystwyth Tinopolis