Y Ras

Nid ras i athletwyr yw Ras yr Iaith, nid yw hi’n gystadleuol, ras yw hi dros y Gymraeg gan bobl Cymru. Ei phwrpas yw dathlu’r Gymraeg, codi ymwybyddiaeth o’r iaith, dangos hyder ati a dangos i’r byd fod cefnogaeth i’r Gymraeg ar lawr gwlad.

Bydd unigolion, teuluoedd, busnesau neu glybiau lleol, sefydliadau ac ysgolion yn noddi ac yn rhedeg cymal gan gario baton y Ras. Mae’n £50 i noddi cymal. Gall holl ddisgyblion yr ysgol neu holl aelodau tîm pêl-droed y pentref redeg y cymal hwnnw. Wedi rhedeg eich cymal mae croeso i chi rhedeg rhagor yn ddi-dal. Ein bwriad yw gweld miloedd o bobl yn rhedeg gan ddathlu’r iaith.

Mae’r baton a gerfiwyd yn arbennig i’r Ras gan Ysgol Gyfun Penweddig a’i noddi gan Fentrau Iaith Cymru yn 2014, yn cael ei ddefnyddio eto eleni. Caiff ei throsglwyddo o law i law wrth i redwyr ddangos eu cefnogaeth i’r iaith. Nid oes disgwyl i chi redeg yr holl ras!

Mae’r Ras wedi ei seilio ar ras y Korrika a ddechreuodd yng Ngwlad y Basg yn 1980 sydd wedi esgor ar ras debyg yn Llydaw (ar Redadeg) a’r Iwerddon (an Rith). Cymru fydd nesa gyda chanolbarth Cymru yn arwain y ffordd.

Bydd cyfle i bawb fod yn rhan o’r ras, unai trwy redeg, noddi, neu gefnogi – does dim esgus i beidio â bod yn rhan o’r dathliad gwych hwn o’r iaith. I ddarganfod sut i fod yn rhan cliciwch yma.

Pwy yw Rhedadeg?

Gweinyddir y Ras gan gwmni nid-er-elw Rhedadeg Cyf. Dyma’r cwmni sy’n gyfrifol am yswiriant a delio gyda thaliadau. Cafodd Rhedadeg eu ffurfio yn 2010 gan gyfarwyddwyr y cwmni, Siôn Jobbins ac Arwel Jones er mwyn sefydlu Ras yr Iaith. Rhif Cwmni: 07319257

Caiff y gwaith o gynnal y Ras ei wneud y Mentrau Iaith – rhwydwaith o grwpiau (Cwmnïau nid er elw neu/ac elusennau) sydd ar draws y wlad gan weithio gyda’r gymuned leol.

Mentrau Iaith Brecon Carreg Llaeth y Llan Golwg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys BT Prifysgol Aberystwyth Tinopolis