Bandiau Garddwrn ar Werth – am £1!

Yn ogystal â prynu Crys-T Ras yr Iaith beth am gael gafael ar un o’n bandiau garddwrn ffynci!?

Mae bandiau garddwrn o’r fath yn boblogaidd iawn ac yn ffordd syml ac effeithiol o ddangos eich cefnogaeth i’r digwyddiad arloesol yma.

bandiau garddwrn

Dim ond £1 yw pris y bandiau yma. Beth am brynu llond llaw ohonynt ac yna eu gwerthu i’ch ffrindiau a chyd-redwyr? Un maint sydd ond gan eu bod wedi eu gwneud o rwber mae nhw’n ddigon ystwyth i ymestyn (ac aros) ar y rhan fwyaf o arddyrnau heb law rhai y plant lleiaf un. Yn wir, dwylo plant sydd yn y llun ar y chwith.

Ar y band mae logo trisgell goch y Ras a’r geiriau ‘Ras’ mewn gwyrdd ac ‘yr Iaith’ mewn coch.

I gael gafael ar y bandiau yna cyswlltwch â Cered yn uniongyrchol neu ebostiwch post@rasyriaith.org Gallan nhw ddod â swpyn i chi pan fyddant yn teithio ar hyd Ceredigion neu Fachynlleth. Holwch hefyd eich cyswllt Ras yr Iaith lleol – bydd swpyn ganddyn nhw hefyd.

Mae’r elw o’r bandiau yn mynd yn syth i goffrau Ras yr Iaith ac o’r elw hynny byddwn yn buddsoddi fel grantiau i hyrwyddo’r Gymraeg.

criw Aberystwyth â  bandiau garddwrn Ras yr Iaith

criw Aberystwyth â bandiau garddwrn Ras yr Iaith

Dyma ffoto o griw Ras yr Iaith yn Aberystwyth yn arddangos eu bandiau garddwrn nhw mewn cyfarfod diweddar i drafod y Ras. Bydd gwisgo’r bandiau yn ffordd syml, rhad ac effeithiol i ddangos eich bod chi’n cefnogi digwyddiad gynhyrfus iawn dros yr iaith Gymraeg.

Tagiwyd: ,
Postiwyd yn Newyddion
Mentrau Iaith Brecon Carreg Llaeth y Llan Golwg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys BT Prifysgol Aberystwyth Tinopolis